Roedd ysgol Nannerch yn wreiddiol yn Hen Dŷ'r Ysgol ger y Cross Foxes.
Agorodd yr ysgol bresennol ym 1895 gydag un ystafell fawr wedi'i rhannu'n ystafell ddosbarth fach ar gyfer y babanod ac un fwy i'r dosbarth canol a'r dosbarth uchaf. Cafodd ei ehangu ym 1845 a'i wella eto yn 1880. Yn y dyddiau cynnar roedd disgyblion yn cael eu paratoi ar gyfer yr ysgoloriaeth yn barod i symud ymlaen i addysg uwchradd yn yr Wyddgrug yn 11 oed. Roedd y rhai oedd yn methu'r ysgoloriaeth neu ddim yn ei sefyll yn aros nes eu bod yn 14 oed. Erbyn y 1990au roedd yr ysgol yn rhy fach ar gyfer twf y pentref ac felly adeiladwyd yr estyniad ym 1998.
<-------- |
Main Index
| Mynegai