Gwasanaethwyd gwaith calch Y Mwynglawdd gan Reilffordd Wrecsam a Minera a oedd yn rhedeg o'r brif reilffordd yn Wrecsam, trwy Brymbo lle roedd hefyd yn darparu cludiant ar gyfer Gwaith Dur Brymbo. Yn wreiddiol, roedd y darn o linell rhwng Brymbo a'r Mwynglawdd wedi bod yn rhan o hen Reilffordd Mwynau Gogledd Cymru, a adeiladwyd ym 1844 ond roedd hyn wedi'i gyfyngu gan oleddfau a weithwyd รข rhaffau. Cwblhawyd y llinell newydd yn llawn ym mis Mehefin 1866. Cyflwyno'r rheilffordd a alluogodd Chwarel Y Mwynglawdd i ehangu cynhyrchiad. Roedd llinell gangen breifat yn rhedeg o'r chwarel i Byllau Plwm Y Mwynglawdd ac mae gwely'r trac yn dal yno yn darparu llwybr cerdded rhwng y ddau. Erbyn 1887 roedd Minera Limeworks Co yn berchen ar 212 o'u wagenni eu hunain ac mae'r rhain wedi'u hanfarwoli gan wneuthurwyr rheilffyrdd model fel Dapol.
<-------- |
Main Index
| Mynegai