Roedd llwybr pererinion hynafol rhwng Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon a Thyddewi yn ne-orllewin Cymru yn mynd trwy Brynffordd.
Yn y cyfnod canoloesol, ystyriwyd pererindodau'n hynod bwysig fel ffordd o wneud iawn am bechodau, gweddïo am help neu gwella salwch. Roedd y mannau cysegredig hyn yn ddau o'r rhai mwyaf uchel eu parch ym Mhrydain ganoloesol. Ystyriwyd bod Tyddewi yn ddigon pwysig i'r Pab ddatgan bod dau ymweliad â Thyddewi yr un fath ag un ymweliad â Rhufain ac roedd tri ymweliad yn cyfateb i un daith i Jerwsalem! Byddai pererindod rhwng cysegrfeydd mwyaf sanctaidd Cymru wedi bod o werth ysbrydol mawr a byddai nifer o bererindod wedi cerdded ar draws y tir comin.
Cafodd y llwybr ei fapio gan y cartograffydd cynnar, John Ogilby, yn 1675, fel rhan o'i arolwg o ffyrdd yng Nghymru a Lloegr. Roedd rhan leol y llwybr yn rhedeg o Dreffynnon ar draws y comin ym Mrynffordd, i lawr i Ysceifiog a Chaerwys ac yna trwy Landyrnog i Ruthun.