Mae Ros Stockdale, Warden AHNE, yn sôn am Ben-y-Pigyn.
Lleolir Coed Pen-y-Pigyn ar y llethrau serth 250 metr uwchben canol tref Corwen. Mae'n goetir derw lled-hynafol, sy'n adfywio ar ôl y blanhigfa conwydd a dorrwyd ym 1992. Mae llwybr yn ymdroelli am hanner milltir i fyny o'r dref, heibio hen gylch meini'r orsedd, i olygfan uchel (130m i fyny) gyda golygfeydd syfrdanol dros y dref, bryngaer Caer Drewyn, a'r dirwedd ehangach. Er bod rhai adrannau serth byr, mae yna ddigon o lefydd am olygfa dda ac i gael hoe a mwynhau'r wlad hardd o gwmpas, felly mae'n werth archwilio'r coetir hyfryd hwn.