Mae'r ysgythriad enwog gan Henri Gastineau, dyddiedig 1831, yn dangos Bryn Castell garw iawn gyda llawer mwy o'r Castell ei hun i'w weld.
Nid yw'r hyn a ddaeth yn Stryd Fawr fawr mwy na thrac mwdlyd, a ddefnyddid gan bobl ar gefn ceffyl. Mae to gwellt ar yr Old Castle Inn, a oedd â charreg ddyddiad o 1732, yn go annhebyg i'r dafarn heddiw. Mae'r hen garchar, a ddefnyddid ar gyfer meddwon ac dihirod eraill, yn nodwedd amlwg wrth droed y bryn. Yn lleol mae rhai pobl wedi awgrymu bod yr ymadrodd 'Live in Hope and die in Caergwrle' yn gysylltiedig â'r gred y gallai rhai, o fewn plwyf Yr Hôb, fod wedi treulio eu dyddiau olaf dan glo yng Nghaergwrle. Yr adeilad i'r dde o'r Senotaff oedd Hen Orsaf yr Heddlu a'r Llys. Fe’i hadeiladwyd ar droad yr ugeinfed ganrif gyda chelloedd i ddal pobl yn y ddalfa ac iard ymarfer. Arferai Sesiynau Mân gael eu cynnal mewn ystafell uwch yn yr adeilad cyn iddynt gael eu symud i Benarlâg.
<-------- |
Main Index
| Mynegai