Mae pentref Trelawnyd neu Newmarket yn lle hynafol iawn.
Enw'r pentref a ysgrifennwyd yn Llyfr Doomsday yn 1086 yw Treveleanu a thros y blynyddoedd daeth amrywiaeth o enwau i'r amlwg gan gynnwys Rhydylonuyd, Trelawnoyd a llawer o rai eraill nes bod Newmarket wedi'i ddewis yn y diwedd oherwydd y Farchnad wythnosol a gynhaliwyd bob Dydd Sadwrn ar un adeg yn y pentref. Roedd y melinau ŷd a adeiladwyd wrth ymyl nant Ffyddion ddibynadwy, yn gwasanaethu ardal amaethyddol helaeth a datblygodd y pentref i ddiwallu anghenion eraill y gymuned amaethyddol.
Roedd y pentref yn dibynnu ar ffermio ac yna ar ddiwydiannau mwyngloddio plwm Trelogan a Talargoch. Fodd bynnag, ym 1885 roedd ystod eang o grefftwyr yn y plwyf o hyd gan gynnwys gofaint, pum crydd, ffatri hoelion, tri theilwr, saer olwynion, casgennwr, cyfrwywr, triniwr lledr, gwehyddion, tri chigydd, saith groser a dwy siop ddillad a bragdy. Wrth i'r mwyngloddio plwm ddirywio, yn enwedig wedi i fwyngloddiau Trelogan a Talargoch gau a llai o alw am weithwyr ym myd amaethyddiaeth felly y bu gostyngiad ym mhoblogaeth y plwyf.