Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Pysgota ar y Ddyfrdwy

Mae cychod pysgota wedi defnyddio'r cwteri naturiol fel hafan ddiogel ers canrifoedd.

Bydd llawer o'r cychod a welwch yma wedi cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall. Yr un mor bwysig â'r cwch yw eu gwybodaeth am yr aber a'r pysgod sy'n byw ynddo.

Mae'r cychod rhwydi bychain yn pysgota am ledod gwadn, lledod y llaid a lledod brych rhwng Gorffennaf a Rhagfyr tra bod berdys yn cael eu dal yn y flwyddyn newydd.

Defnyddir y cychod mwy ar gyfer hel cocos sydd wedi'i drwyddedu yn afon Dyfrdwy er 2008 i atal gorbysgota.