Adeiladwyd Doc Bagillt neu Gwter yr Orsaf tua 1800 ar gwter naturiol.
Cludwyd dros 1000 tunnell o lo yr wythnos yn ogystal â phlwm, sinc a chopr oddi yma yn ystod yr 1800au.
Lansiwyd stemar y Cambria yn Lerpwl ym 1821 ac roedd yn hwylio bob dydd i Fagillt yn ystod yr haf. Roedd y prisiau yn 3s 6d am gaban gorau, 2s ar gyfer y dosbarth rhataf tra bod plant yn teithio am hanner pris a cheffylau yn 3s. Y flwyddyn ganlynol estynnwyd y gwasanaeth unwaith yr wythnos i Fiwmares, Caernarfon a Bangor.
Gallwch weld o hyd y llifddor neu'r 'fflaget' a ddefnyddid i lenwi dau bwll fflysio i gadw'r doc yn rhydd o silt.



