Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Mwyngloddio o amgylch Bagillt

Bettisfield oedd yr un mwyaf a phwysicaf o 11 pwll glo yn yr ardal.

Roedd yr ardal yn ddelfrydol ar gyfer mwyngloddio glo gan fod gwythiennau trwchus o lo yn rhedeg ar hyd yr arfordir, gan ymestyn ymhell o dan Aber Afon Dyfrdwy, ac roedd hi'n hawdd cludo glo ar y môr. Cloddiwyd am lo yma ers y 1400au a llawer ohono'n mynd i gyflenwi Iwerddon. Tyfodd y galw yn lleol pan ddechreuodd y gweithfeydd mwyndoddi ddefnyddio glo ac yn aml roedd y pyllau glo'n dod i feddiant y cwmnïau mwyndoddi.

Daeth undebaeth llafur i Gymru ym 1830 pan ymunodd glowyr Sir y Fflint ag Undeb y Glowyr Cysylltiedig Cyfeillgar a sefydlodd gangen yn Nhafarn y Boot. Y flwyddyn ganlynol aeth glowyr Maes Glas, Bagillt a'r Fflint ar streic, gan fynnu codiad mewn cyflogau yn ogystal â diddymu siopau Tommy lle roedd yn rhaid iddynt brynu eu bwyd.