Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Eisteddfod Bagillt 1889

Eisteddfod Bagillt 1889

Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol a Choronog gyntaf Sir y Fflint ym Magillt ar 23 a 24 Gorffennaf, 1889.

Un o'r beirdd oedd yn bresennol oedd Pencerdd America, Dr Joseph Parry, a gyfansoddodd lawer o alawon Cymreig gan gynnwys yr enwog Myfanwy.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn yr hen Waith Copr ychydig y tu ôl i'r orsaf a drawsnewidiwyd yn bafiliwn godidog ar gyfer y digwyddiad, wedi'i oleuo gan olau trydan!
Ni ddyfarnwyd y gadair farddol, a wneir yn arbennig ar gyfer pob eisteddfod, gan y teimlwyd nad oedd safon yr ymgeiswyr yn ddigon uchel. Fe ddiflannodd ar ôl y digwyddiad ond ymddangosodd mewn siop hen bethau yn Victoria, British Columbia ym 1976. Mae'r llun yn dangos aelodau o Glwb Hanes Bagillt yn dathlu dychweliad y Gadair yn 2006.