Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Twnnel y Milwr

Roedd Twnnel y Milwr yn brosiect uchelgeisiol i ddraenio mwyngloddiau plwm Helygain.

Roedd draeniad yn broblem enfawr i berchnogion y mwyngloddiau ac erbyn diwedd y 1800au roedd llawer o fwyngloddiau ar Helygain wedi cael eu gweithio i lawr at y lefel trwythiad.

Dechreuodd y gwaith yma ym Magillt ym 1897 i yrru twnnel ar lefel y môr a oedd yn y pen draw yn ymestyn 10 milltir i Cadole ger yr Wyddgrug. Roedd hyn yn galluogi gweithio gwythiennau mwyn ar lefel y môr a hyd yn oed yn is, gan adfywio'r diwydiant plwm yn lleol.

Cafwyd trychineb yn Ffynnon Gwenffrewi yn mis Ionawr 1917 pan stopiodd y dŵr a llifo wrth i Dwnnel y Milwr dynnu ar ffynhonnell y Ffynnon. Adferwyd dŵr i'r Ffynnon ond mae Gwter Dee Bank yn dal i gael ei galw'n The Holy!

Mae 23 miliwn galwyn o ddŵr yn ffrydio allan o'r fan hon bob dydd!

Gwrando