
Mulfran 
Gwenith 
Gwenyn Mwyngloddio 
Froghopper 
Ehedydd 
Gwas neidr Hawker 
Gwyfyn Tip Hook Pebble 
Llwynog
Mae rhywbeth i'w weld ar y Blaendraeth bob amser, unrhyw adeg o'r flwyddyn.
Gwrandewch am bïoden y môr a'r gylfinir yn ystod y gaeaf tra bod y crëyr bach copog yn bwydo'n dawel ar y morfa heli. Mae'r gwanwyn yn ddechrau'r tymor nythu ac mae ymfudwyr fel y dinwen o Affrica yn ymuno â'r adar sefydlog. Mae'r pyllau'n bywiogi trwyddynt ac yn llawn grifft ac wyau eraill, bwyd i ysglyfaethwyr llwglyd.
Gwenyn turio cynnar yw rhai o'r pryfed cyntaf i ymddangos, y benywod yn nythu mewn twneli bychain. Mae'n hawdd dod o hyd i bryfed lliwgar llachar fel llyffaint y gwair, a'r lliwiau'n rhybuddio adar nad ydyn nhw'n blasu'n dda, tra bod pryfed eraill yn dibynnu ar eu cuddliw i osgoi cael eu bwyta.
Yn yr haf mae glöynnod byw yn gwibio dros y glaswelltir, gan yfed neithdar a dodwy wyau ar y planhigion o'u dewis.
Mae mieri, egroes, ac aeron eraill yn darparu gwledd i'w chroesawu i'r pryfed, mamaliaid bychain a'r adar fel ei gilydd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gaeaf arall.
Diolch yn fawr i Elaine Thomas am y lluniau gwych.