Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Croeso i Flaendraeth Bagillt

Croeso i Flaendraeth Bagillt, gem gudd ar Arfordir Sir y Fflint.

Mae Draig Bettisfield yn edrych allan dros Aber Afon Dyfrdwy ar olygfeydd ysgubol sy'n newid bob dydd, yn dibynnu ar y llanw a'r tymhorau.
Heddiw mae'n anodd dychmygu sut le oedd yr ardal hon yn y 1700au a'r 1800au pan oedd gweithfeydd plwm a ffatrïoedd eraill yn rhesi ar hyd y glannau, ac yn cael eu tanio gan gyflenwad digonol o lo o'r glofeydd lleol.
Troliau yn llawn o lo, plwm, copr ac, yn ddiweddarach, sinc ar eu ffordd i'r dociau i hwylio am Parkgate, Lerpwl ac Iwerddon. Gallai deithwyr hefyd fwynhau tripiau undydd wrth i gerbydau a dynnwyd gan geffylau ddod â phobl o Dreffynnon, y Fflint, Dinbych a Llanelwy.
Heddiw mae'r ardal yn hafan i fywyd gwyllt. Mae mwd cyfoethog yr aber yn denu miloedd o adar bob gaeaf tra yn y gwanwyn gallwch glywed yr ehedydd yn canu a galwad nodedig llyffantod y twyni.
Mae'r llwybr hwn wedi'i ddatblygu fel rhan o Brosiect Ddoe a Heddiw - Blaendraeth Bagillt, dan arweiniad Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint a'i ariannu trwy Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Croeso i Flaendraeth Bagillt
Croeso i Flaendraeth Bagillt