
Mae gan y comin agored o gwmpas Brynford gymysgedd arbennig o galed ac anarferol o blanhigion ac anifeiliaid.
Mae priddoedd Mynydd Helygain yn denau ac maent ar amrywiaeth o greigiau. Carreg galch yw'r graig fwyaf cyffredin ond mae cornfaen, clai, tywod a graean hefyd yno. Mae rhywogaethau planhigion gwahanol yn tyfu uwchben y gwahanol greigiau. Mae'r gweithgareddau mwyngloddio a phori dros y canrifoedd hefyd wedi effeithio ar briddoedd lleol a'r planhigion a'r anifeiliaid sy'n byw yma. Mae'r pori parhaus gan ddefaid yn hanfodol i atal gormod o brysgwydd rhag tyfu a chadw'r comin yn agored ac yn gyfoethog o flodau.
Mae Rachel Watson, ceidwad Mynydd Helygain, yn esbonio pam mae'r comin agored mor bwysig yn ecolegol a sut y caiff ei reoli ar gyfer bywyd gwyllt.