Croeso i Brynffordd, pentref a dyfodd i gartrefu'r mwyngloddwyr a chwarelwyr a ddaeth i chwilio am waith yn mwyngloddiau plwm a chwareli Mynydd Helygain.
Mae Brynffordd yn hen anheddiad, a grybwyllir yn Llyfr Domesday 1086, ond hyd at y 1800au, roedd yn dal i fod yn gymuned ffermio wasgaredig. Tyfodd y pentref ar ôl y chwyldro diwydiannol i gartrefu mwynwyr a chwarelwyr a ddaeth i chwilio am waith yn mwyngloddiau plwm Helygain. Mae'r eglwys, yr ysgol wreiddiol, y capeli a'r rhan fwyaf o'r tai hŷn yn dyddio o gyfnod Fictoraidd ond mae'r pentref wedi parhau i ehangu i'r 21ain ganrif.
Datblygwyd y llwybr hwn gan Gyngor Cymuned Brynffordd gyda chymorth disgyblion Ysgol Brynffordd i'ch helpu chi i archwilio'r pentref a'r ardal gyfagos. Nododd y plant fannau o ddiddordeb ac ymchwiliwyd i hanes y pentref. Buont hefyd yn cyfweld rhai o'r trigolion hŷn i ddarganfod sut beth oedd tyfu i fyny yn Brynffordd yn yr hen ddyddiau yn ogystal â'r Ceidwad sy'n gofalu am Fynydd Helygain.






