Mae calchfaen wedi cael ei gloddio'n lleol ers cannoedd o flynyddoedd ac mae'n dal i ddigwydd heddiw.
Roedd y chwareli cynnar yn fach gan fod y graig yn cael ei chymryd â llaw gan ddefnyddio trosolion, morthwylion a chynion syml. Caniatawyd i bobl leol gymryd cerrig i adeiladu tai i'w hunain. Erbyn heddiw mae chwareli mawr, mecanyddol iawn yn cyflenwi dros filiwn o dunelli o garreg ac agreg i Ogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr bob blwyddyn.



