Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Odynau Calch Brynffordd

Gwrando

Defnyddiwyd yr odynau calch dwbl hyn i gynhyrchu calch i wella'r pridd ac i wneud morter ar gyfer adeiladau lleol.

Mae'r arfer o losgi calchfaen i wneud calch brwd wedi'i gynnal ers oes y Rhufeiniaid. Yna roedd y rhan fwyaf o'r calch brwd hwn yn cael ei doddi neu ei gymysgu â dŵr i wneud calch hydradol a oedd yn sail i wyngalch a morter calch.

Roedd dulliau cynhyrchu cynnar yn weddol syml. Roedd haenau o galchfaen a thanwydd yn cael eu pentyrru mewn twmpath, yna eu gorchuddio â thywyrch a'u llosgi'n araf, yn yr un modd ag y gwnaed golosg. Wrth i'r galw gynyddu, daeth dulliau cynhyrchu yn fwy soffistigedig a chalchfaen yn cael ei llosgi mewn odynau cerrig. Ar ddiwedd y 19eg ganrif, roedd nifer o odynau sengl a dwbl yn cael eu defnyddio ar draws dir comin Mynydd Helygain. Daeth llosgi calch ar Fynydd Helygain i ben o gwmpas amser y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae'r odynau wedi dirywio'n raddol.

Adferwyd yr odynau hyn yn 2016 gyda chyllid gan y Loteri a Stad Grosvenor. Mae'r saer maen, Gwyn Davies, yn disgrifio'r broses adfer.