
Roedd Capel Methodistiaid Saron yn un o bedwar capel o'r 19eg ganrif yn y plwyf.
Sefydlwyd y capeli ym Mrynffordd cyn eglwys y plwyf i wasanaethu'r boblogaeth gynyddol o fwynwyr a chwarelwyr a oedd yn anghydffurfwyr cryf, gan ddewis dull addoli symlach i'r hyn a gynigiwyd gan yr eglwys Anglicanaidd. Roedd Saron yn gapel Methodistiaid Calfinaidd ac fe'i hadeiladwyd ym 1838. Fe'i haddaswyd yn 1862 ac ailadeiladwyd yn 1905 i ddarparu ar gyfer y gynulleidfa gynyddol. Cafodd ei ddigysegru ac ym 1986 ei werthu a'i droi'n annedd.
Mae'r preswylydd lleol, Linda Greenhough, yn cofio mynd yno fel plentyn ddiwedd y 1960au ar gyfer gŵyl gynhaeaf flynyddol yr ysgol, gyda'r holl blant yn cerdded o'r ysgol i'r capel yn cario'r llysiau a ddygwyd ganddynt ar gyfer y gwasanaeth.