Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Mwyngloddio plwm o gwmpas Brynffordd

Cafodd Mynydd Helygain ei gloddio am y plwm ers bron i 2000 o flynyddoedd ac roedd yn un o'r cynhyrchwyr mwyaf ym Mhrydain.

Y Rhufeiniaid oedd y cyntaf i fwyngloddio plwm ar y comin, gan weithio'r gwythiennau a oedd ger yr wyneb. Parhaodd y mwyngloddio ar raddfa fach am ganrifoedd tan i ddatblygiadau technolegol y chwyldro diwydiannol, alluogi mwyngloddio dyfnach, ar raddfa fwy. Agorwyd nifer fawr o fwyngloddiau yn ardal Brynffordd, gan gynnwys y rhai sy'n eiddo i gwmni London Lead a weithredodd yn gynnar yn y 1700au a mwynglawdd Valentine yn Fferm Ffrith a agorodd yn y 1860au. Erbyn dechrau'r 20fed ganrif roedd y rhan fwyaf o'r mwyngloddio o gwmpas Brynffordd wedi dod i ben. Nid oes unrhyw beiriannau wyneb yn parhau, ond mae'r tir comin agored yn lloerwedd o dwmpathau a phantiau o rwbel ac echdynnu, gyda nifer o siafftiau wedi'u cau. Defnyddiwyd Magazine Cottage ger y Clwb Golff yn wreiddiol ar gyfer storio ffrwydron.

Cyfweliadau o adroddiad y Comisiwn Brenhinol 1842 wedi'u dramatio gan ddisgyblion Ysgol Brynffordd.

Gwrando
Gwrando

Roedd adroddiad y Comisiwn Brenhinol yn edrych i mewn i gyflogi plant a phobl ifanc ym mhyllau a gweithfeydd mwyn Gogledd Cymru yn cynnwys cyfweliadau gyda'r rhai oedd yn gweithio mewn mwyngloddiau lleol. Mae'r adroddiad yn rhoi cipolwg ar fywyd yn y mwyngloddiau ond mae'n debyg fod rhai a holwyd wedi methu siarad yn ddiffuant am eu bod yn ofni'r goruchwylwyr.

Disgrifiodd James Jones, 17 oed, ei waith ym Mwynglawdd Milwr: "Dechreuais i yn 11 oed fel golchwr mwyn ar yr wyneb. Rwy'n gweithio o 7am tan 6pm gydag awr i ginio. Mae'r gwaith yn aml yn rhwymo fy ngholuddion. Mae ein dwylo yn gyson mewn dŵr ac mae ein traed fel arfer yn wlyb tra'n gweithio ".

Cafodd Richard Hughes, 10 oed, ei gyfweld hefyd, "Rydw i wedi gweithio yn y pwll am flwyddyn ac ychydig mwy. Rwy'n derbyn 3 swllt wythnos ac rwy'n ei roi i gyd i fy mam. Rwy'n gweithio'n galed iawn - wnaiff y goruchwyliwr ddim gadael i ni fod yn segur."

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma