Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Pen y Ball

Pen y Ball

Yn y canoloesoedd roedd mwyndoddi plwm ar ben y bryn ym Mhen y Ball mewn ffwrneisi cerrig syml, o'r enw 'bolau'.

Roedd y bryn sy'n 820 troedfedd uwchlaw lefel y môr yn safle mwyndoddi delfrydol gan fod y gwyntoedd cryf yn chwythu'r fflamau yn y bolau gan wneud iddynt losgi'n boethach ac yn fwy llachar.

Mae'r gofeb garreg sydd bellach yn sefyll yno wedi'i wneud o galchfaen Helygain ac fe'i codwyd ym 1893 i goffáu priodas Dug Efrog etifedd gorsedd Lloegr. Mae arysgrifiad ar y garreg hefyd yn coffáu iddo gael ei gyhoeddi'n frenin George V ym 1910 a'i jiwbilî arian yn 1935.