
Yn wreiddiol fferm Coetia Mawr oedd safle'r fynwent anifeiliaid anwes.
Roedd gan fferm Coetia Mawr fuches laeth fawr a rownd laeth yn y pentref am flynyddoedd lawer. Mae'r caffi yn yr hen stablau a oedd unwaith yn gartref i hyd at 17 o anifeiliaid, o geffylau gwedd i'r merlod llai a dynnai'r car llaeth. Mae'r caffi ar agor 7 diwrnod yr wythnos.