
Y fynedfa yng nghefn y Ganolfan Ganolog 

Llawr gwaelod 
Llawr gwaelod 
Crochenwaith ôl-ganoloesol yn cael ei arddangos yn y Ganolfan Dreftadaeth 
Crochenwaith Bwcle yn y Ganolfan Dreftadaeth 
Llyfrau hanes lleol ar werth
Mae'r llyfrgell yn rhan o Hamdden a Llyfrgelloedd Aura. Fe’i hagorwyd ym mis Ionawr 1977, gan ddisodli Llyfrgell Carnegie wrth ymyl Swyddfeydd y Cyngor. I fyny'r grisiau mae Cyswllt Sir y Fflint, y Casgliad Astudiaethau Lleol a Chanolfan Dreftadaeth. Mae'r Ganolfan yn dal arteffactau a gwybodaeth am hanes Bwcle, gan gynnwys rhan o Gasgliad Crochenwaith Bwcle Martin Harrison. Mae ynddo hefyd ardal arddangos ar gyfer arddangosfeydd dros dro ar amrywiaeth o bynciau treftadaeth. Gellir cael copïau am ddim o’r daflen ‘Llwybr Tref a Threftadaeth’ yno
Mae croeso i bawb; mae lifft i'r ail lawr.