
Cerdyn post cynnar 
c.2000 
c.2000 
Drychiad gorllewinol c.2000 
Drychiad ochr o'r Flash
Mae'r parchedig Martin Batchelor yn siarad am yr eglwys
Cysegrwyd yr eglwys ar y 25ain Hydref 1842. Roedd yn gwasanaethu rhan ogledd-ddwyreiniol hen blwyf yr Wyddgrug, a treflannau Bistre ac Argoed. Sefydlwyd plwyf newydd Bistre ym 1844. Saif yr eglwys o’r gogledd i’r de, yn hytrach na'r dwyrain i’r gorllewin arferol. Talwyd am gloc yn y twr a phlac yn yr eglwys trwy danysgrifiad cyhoeddus (£ 73.16s.5d) a'i godi ym 1876 er cof am y ficer cyntaf, uchel ei barch, Edward Jones (1793 - 1876), a wasanaethodd am dri deg tri o flynyddoedd.
Bu gwaith atgyweirio yn 1861 ar ôl difrod oherwydd y mwyngloddio agos ond erbyn 1876 roedd angen ei atgyweirio unwaith eto. Yn 1881 cafodd WH Spaull, Croesoswallt y cytunded i ddylunio’r darn mewnol a cafodd dyn o Fwcle, John Williams y cytundeb I wneud y gwaith adeiladu. Wedi ymgyrch codi arian gosodwyd organ newydd ym 1888. Ym 1926, adferwyd y tu allan yn drylwyr a glanhawyd ac addurnwyd y tu mewn. Adeiladwyd festri newydd ym 1935.
Ym 1997, dyfarnwyd statws rhestredig Gradd II i'r Eglwys gan CADW fel enghraifft dda o eglwys Fictoraidd gynnar sy'n cadw nodweddion mewnol o ansawdd a diddordeb.