Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Fynwent

Cysegrwyd porth y fynwent, rhodd gan deulu Edwards o Holly Bank, ym 1922. Wedi'i wneud o dderw Seisnig, fe'i dyluniwyd gan H Hutchinson, Caergwrle ac fe'i hadeiladwyd gan George Wright & Sons, Hawarden. Cafodd y gatiau gwaith haearn a’r bwa oedd yno cynt, eu symud i’ri chwaer eglwys yr All Saints, Lane End a'u cysegru yno yn 1924. Cysegrwyd mynwent newydd ym 1891 a chae cyfagos i'w ymestyn ym 1909.
Mae dau ficer wedi'u claddu bob ochr i fynedfa'r eglwys. Mae dau ar hugain o gerrig beddi i goffáu'r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a phedwar a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd, yn bennaf ar feddau teulu. Carreg fedd nodedig yw carreg Edward Bellis a fu’n ymladd yn llyngest Nelson ym Mrwydr Trafalgar ar Hydref 31ain 1805. Claddwyd ef ddydd Nadolig 1848.