Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Hanes Byr o'r Eglwys

Gwrando

Y Parchedig Neil Kelly yn siarad am yr eglwys

Gosodwyd carreg sylfaen yr eglwys ar 14 Rhagfyr 1821 a cafodd yr eglwys ei gysegru ar 25 Medi 1822: daeth y cerrig sydd ar wyneb y waliau o chwarel yn Cross Tree, Liverpool Road. Roedd yr eglwys yn rhan o Blwyf Hawarden tan 1874 pan ddaeth Bwcle yn blwyf ar wahân gan gynnwys treflan Ewloe Wood a rhannau o dreflannau Ewloe a Phentrobin gyda phoblogaeth o tua 3000. Erbyn diwedd y 1890au roedd yr adeilad gwreiddiol wedi mynd yn adfail. Cyflwynodd y penseiri Douglas a Minshull adroddiad, ac wedi ei dderbyn bu raid ail adeiladu’r eglwys bron yn gyfan rhwng 1898 a 1904.

Yn ystod y blynyddoedd pan oedd yr eglwys yn cael ei ail aideladu, y ficer oedd Y Parchedig Harry Drew (1897 - 1905). Yn briod â Mary, merch William Ewart Gladstone, daeth yn ffigwr o fri ym mhlwyfi Bwcle a Hawarden. Adeiladwyd y gangell fel cofeb i William Ewart Gladstone crewyd y fedyddfa fel cofeb i'w wraig, Catherine.

Ym 1997, dyfarnwyd statws rhestredig Gradd II i'r eglwys gan CADW fel enghraifft ragorol o waith John Douglas. Mae’r eglwys yn cynnwys yr engreifftiau diweddaraf ac mwyaf arwyddocaol o'i ddefnydd o fframio pren wrth ddylunio eglwys.