
Fe'i sefydlwyd yn 1944 gan dîm ymroddedig dan arweiniad Dennis Griffiths, ac roedd yr aelodaeth wreiddiol yn cynnwys un ar bymtheg o sefydliadau. O fewn ychydig fisoedd prynwyd Hawkesbury Hall, sydd bellach yn dŷ preifat, fel ei bencadlys. Cyhoeddwyd pedair Cylchgrawn Bwcle yn y 1940au fel “organ swyddogol Cymdeithas Ddiwylliannol Pobl Ifanc Bwcle ”. Mae rhagair y rhifyn cyntaf, gan Dennis Griffiths, yn nodi: “Rhaid cyfaddef fod gan Bwcle yr ysbryd cymunedol gorau yng Ngogledd Cymru. Y gwirionedd trasig yw fod y ddarparieth o ran adeiladau ac offer yn waeth nag unrhyw ardal arall”. Fe'i hariannwyd yn rhannol gan elw Cwmni Pantomeim Amatur Bwcle , a'i gyfarwyddwr artistig oedd Dennis Griffiths.
Profodd y BYPCA yn driw i'w egwyddorion sylfaenol a darparodd y fframwaith i alluogi llawer o sefydliadau i ffynnu dros y blynyddoedd. Peidiodd â gweithredu ddiwedd y 1990au.