Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Parchedig Doctor Howell Elfet Lewis, CH 1860 - 1953

Ymweliad olaf Howell Elfet Lewis ag Eglwys Gynulleidfaol Sant Ioan (URC bellach) 1953
Ymweliad olaf Howell Elfet Lewis ag Eglwys Gynulleidfaol Sant Ioan (URC bellach) 1953

Mae’r ysgol wedi ei enwi ar ôl Howell Elfet Lewis a benodwyd, yn syth ar ôl ei ordeinio, yn gurad yn Eglwys Gynulleidfaol Sant Ioan (yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig bellach) rhwng 1880 - 1884. Yn ystod yr amser byr hwnnw, adnabyddid ef fel “y llanc” ac enillodd barch a chariad ym Mwcle yn ystod ei yrfa hir a disglair. Yn ogystal â bod yn weinidog gyda’r Annibynwyr, roedd ei gynyrch llenyddol yn enfawr. Roedd yn Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1924 - 1928; bu’n weithgar ar bwyllgorau yn hyrwyddo gwaith cenhadol; cyfansoddodd nifer o emynau yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Dychwelodd o dro i dro i pregethu yn Eglwys Sant Ioan , gan ddenu cynulleidfaoedd mawr, yr olaf o'r rhain oedd yn Awst 1953, pan gafodd ei ddarlledu j gan y BBC. Bu farw ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno.