
Gwaith Brics Hancock's Lane End c.1905 
Chwarel Hanson, Lane End Hydref 1999 wedi'i gweld o'r llwybr treftadaeth ar Knowl Hill 
Y simnai gwaith brics olaf ym Mwcle yn cael ei dymchwel yn Lane End 26.11.2004
Wedi'i sefydlu yn 1792 gan William Hancock, hwn oedd y gwaith brics ail hynaf yn Bwcle. Fe'i prynwyd gan Buckley Junction Metallic Brick Co, Ltd. Yn 1933 prynwyd gan Castle Fire Brick Company ym 1956, a Butterley ym 1971 ac , o’r diwedd cafodd ei gymeryd drosodd gan Hanson's. Dros yr holl flynyddoedd, serch hynny, fe’i galwyd yn “Hancock’s”. Ar un adeg roedd ganddo lein fach yn cysylltu gyda’r brif reilffordd. Cynhyrchodd, ymhlith eraill, frics Jacobeaidd o ansawdd uchel.
Hwn oedd y gwaith brics olaf yn y dref, a bu raid iddo gau yn 2003, gan adael twll clai enfawr: yn mis Tachwedd 26ain 2004 , dymchwelwyd y simnai gwaith brics olaf ym Mwcle.
Yn 2006, rhoddwyd caniatâd cynllunio i Redrow ar gyfer 300 o gartrefi (Heathlands) fel rhan o’r caniatad roedd raid hefyd fod yn ofalus gyda’r tirlunio, creu mannau agored, pyllau a chynefin coetir, yn enwedig I liniaru colled cynefin y Madfall Cribog Fawr, gan ei gysylltu â Knowl Hill. Gallwch gerdded o'r gyffordd â Church Road, ar hyd Lon Butterley, gan droi i'r dde, draw i Knowl Hill.