
Sinema'r Palas, gyda Billiard Hall, Printer's a Swyddfa'r Post ar y chwith c. 1920 
Thomas Cropper c.1920 
Sinema Palace 1959 
Dydd y Jiwbilî; nodwch y trowsus fflam c.1975 
Gorymdaith y Jiwbilî yn pasio Sinema'r Palas 1970 
Dymchwel ym 1975 
Hysbyseb Gwaith Argraffu Cropper 1902
Agorodd Sinema’r Palas, gyda 400 sedd ym mis Rhagfyr 1917 ac roedd Thomas Cropper a'i deulu yn berchen arno ac yn ei redeg. Uwchben y sinema roedd neuadd biliards dirwestol, gyda naw bwrdd maint llawn, i'r chwith ohonynt roedd eu busnes argraffu llwyddianus gyda swyddfa bost oddi tano. Fe allech chi brynu offerynnau cerdd a nwyddau chwaraeon yn ogystal â deunydd ysgrifennu: roedd yr adeilad yn un o yn un o fusnesau llewyrchus Lane End.
Caeodd y sinema ym 1961. Agorodd eto am gyfnod byr a’i redeg gan griw brwdfrydig o selogion sinema lleol, ond dirywiodd yr adeilad a cafodd ei ddymchwel ym 1975.
Roedd yn sefyll lle mae maes parcio CZ Glaziers heddiw.
Thomas Cropper, 1869 - 1923
Yn ogystal â bod yn berchennog y gwaith argraffu a Sinema’r Palas , bu’n ymwneud â chymdeithasau cerddorol lleol, gan gynnwys Cymdeithas Gorawl Bwcle. Roedd hefyd yn chwarae’r organ yn Eglwys Gynulleidfaol St. John (yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig yn ddiweddarach).
Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes Bwcle ac ysgrifennodd erthyglau ar gyfer y Cheshire Sheaf a’r Chester Chronicle. Cafodd llawer ohonynt eu cynnwys yn y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi ar hanes Bwcle, sef,“Buckley and District”. Yn anffodus, bu farw Cropper ychydig amser cyn i’r llyfr gael ei gyhoeddi ym mis Hydref 1923.