Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Safle Gorsaf Dân a'r Heddlu

Y Gorsafoedd Tân a'r Heddlu a Hanes y Safleoed

Roedd sylw at dafarn y ‘Duke of York’ ar fap tyrpeg Brychdyn - Wyddgrug yn 1820. Roedd y map yma yn dilyn ardal mynydd Bwcle. Ymchwiliodd y diweddar Neville Dunn i'r si bod twnnel yn rhedeg o seler y Dafarn i Lofa Lexham Green, yn gweithio fel mecanwaith awyru. Mae ei erthygl “Buckley’s Duke of York Inn Tunnel: legend or fact” ar gael yng Nghylchgrawn Rhif 29 Cymdeithas Bwcle.

Crogi’’r Crogiwr. Mae yna chwedl (delete trefol) yn gysylltiedig â'r Dafarn. Dywedir bod crogwr cyhoeddus ar ei ffordd i ddienyddiad, wedi aros yn ystod ei daith yn Nhafarn y Duke of York. Perswadiodd y cwsmeriaid iddo ddangos sut yr oedd yn crogi pobl. Dywed rhai fersiynau iddo ladd ei hun yn ddamweiniol yn y broses, eraill iddo bron â gwneud hynny. Os gwir neu pheidio mae’n gwneud stori dda er braidd yn erchus.

Ar ol hynny daeth Liverpool House, adeilad mawr a fu’n gartref, yn ei ddydd, nifer o fusnesau.

Yr Orsaf Dân. Sefydlwyd Brigâd Dân Bwcle gan Gyngor Dosbarth Trefol Bwcle ym 1939. Roedd wedi'i leoli mewn adeilad y tu ôl i Swyddfeydd y Cyngor yn Mold Road, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio gan Fand Brenhinol Tref Bwcle. Daeth y gwasanaeth o dan awdurdodaeth y Cyngor Sir ym 1948. Ym 1972 symudodd i'w leoliad presennol. Cynhaliwyd seremoni agoriadol ar 31 Mai. Yn 2008 - 9 cafodd yr adeilad ei ymestyn a'i foderneiddio gyda cost o £360,000.

Bellach yn rhan o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, mae'n orsaf System Dyletswydd Wrth Gefn (RDS). Mae'r gwasanaeth yn trefnu'r arddangosfa tân gwyllt flynyddol ar y Comin Uwch. Mae hwn yn aclysur poblogaidd, am ddim i’r cyhoedd, ac mae’n cael ei ariannu gan Gyngor Tref Bwcle. Mae’r gwasanaeth hefyd yn mynychu digwyddiadau cymunedol eraill.

Yr Orsaf Heddlu. Cafodd yr Orsaf wreiddiol yn Mold Road ei ddymchwel ym 1933 ac mae'r un newydd yn dal i sefyll wrth ymyl Swyddfeydd y Cyngor. Ym mis Hydref 2017, symudodd Tîm Cymdogaeth Ddiogelach Heddlu Gogledd Cymru Bwcle i'w leoliad presennol, adeilad pwrpasol sy'n ffinio â'r Orsaf Dân.