Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Swyddfeydd Cyngor Tref Bwcle

Yn wreiddiol, rhwng 1897 a mis Ebrill 1974, Cyngor Dosbarth Trefol Bwcle (BUDC) oedd yn gwasanaethu’r dref a'r ardal.Yn 1974, fel rhan o ad-drefnu llywodraeth leol, sefydlwyd Cyngor Tref Bwcle.
Mae'r dref wedi'i rhannu'n bedair ward etholiadol: wardiau Dwyrain Bistre, Gorllewin Bistre, Mynydd a Phentrobin.

Yn 2009, dyfarnwyd statws rhestredig Gradd II i swyddfeydd y Cyngor a Llyfrgell Carnegie gan Cadw fel enghraifft dda o bensaernïaeth ddinesig ac fel swyddfa cyngor a llyfrgell oedd yn dangos cymeriad unigryw yn berthnasol i hanes ddiwydiannol y dref.