Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Theatr a Sinema 'r Tivoli

Theatr a Sinema 'r Tivoli

O'i gymharu â Sinema'r Palas ymhellach i lawr Lane End gyda 400 o seddi, roedd gan y Tivoli bron i 1000 o seddi. Yn ei flynyddoedd cynnar, roedd y Tivoli yn cael ei redeg fel theatr yn unig gyda llawer o bobl enwog yn ogystal â llawer o gymdeithasau lleol yn perfformio. Ym 1927, ddwy flynedd ar ôl agor, roedd yn hysbysebu “dramâu o’r radd flaenaf , rifiwiau, sioeau adloniant, , comedïau cerddorol, pantomeimiau ac operâu”

Dangoswyd ffilmiau distaw a ffilmiau llafar yn eu hamser, a hysbysebwyd rhaglenni parhaol am nifer o flynyddoedd i fodloni chwant anniwall y cyhoedd am adloniant yn y dyddiau cyn i'r teledu gyrraedd. Pan gyrhaeddodd ffilmiau siarad yn y 1930au , roedd cymaint o gyffro nes bod y ciwiau yn enfawr.

Roedd dau berfformiad bob nos Sadwrn, gyda pobl yn ciwio at Y Groes ar gyfer seddau’r cylch a thuag at ‘Daisy Hill’ ar gyfer seddau’r stondin

Yn 1937 byddai’r seddau wedi costio rhwng 3d a 1swllt 3d (heddiw 63p I £3.17c) . Caewyd yr adeilad fel sinema yn 1961 a’I ailwampio. Agorodd fel neuadd ddawns yn 1965. Y film olaf I gael ei ddangos yn 1960 oedd ffilm Paramount ‘ A Breath of Scandal ‘ gyda Sophia Loren a Maurice Chevalier.

Y jôc Tivoli oedd: “Ydych chi'n mynd i'r Tiv ? Ateb : “ OLI”
Ni allai un ferch gael gafael ar hyn ac atebodd bob amser : “ Am IL!”

Cliciwch ar y ddolen isod i glywed Rosemary Griffiths yn siarad am ei phrofiad fel plentyn yn mynd heibio yn y pantomeim

Mae Rosemary Griffiths yn cofio ei hamser yn y Pantomeim yn blentyn