
Lluniwyd yr ap hwn gan Gymdeithas Bwcle, cymdeithas wirfoddol leol yn Sir y Fflint, sy'n gweithio i hyrwyddo diddordeb yn hanes ardal Bwcle.
Rydym yn casglu ac yn cyhoeddi'r holl wybodaeth a deunyddiau sydd ar gael sy'n ymwneud â Bwcle a'r ardal mewn cylchgrawn blynyddol, y mae gennym fynegai ar ei gyfer, ac yn trefnu sgyrsiau misol yng Nghanolfan Gymunedol Hawkesbury.
Mae gennym archif gymuned ddigidol a fydd ar gael ar y we cyn bo hir.
Mae gennym lawer o ohebwyr o bob cwr o'r byd sy'n tarddu o'r dref, yn ddisgynyddion o deuluoedd Bwcle neu sydd â diddordeb yn nhreftadaeth y dref.
Rydym yn croesawu ymholiadau trwy e-bost ond yn gofyn i ymholwyr gofio, er ein bod yn hapus i archwilio ein harchifau am enwau neu wybodaeth, nid ydym yn gymdeithas hanes teulu ac ni allwn gynnal ymchwil hanes teulu ar ran ymholwyr.
Rydym yn croesawu gwybodaeth am Fwcle a'r ardal ac rydym bob amser yn barod i groesawu pobl sy'n gallu cyflwyno sgyrsiau ar bynciau lleol.
CYDNABYDDIAETHAU
Hoffem ddiolch i'r canlynol am eu cymorth a'u cefnogaeth:
Cyfranwyr: Jo Danson, Ann Hughes, Ray Roberts, Ann Hughes, Bill Smutts, Mandy Cartwright (Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (ARC) ) , Drury, Mountain Lane, Southdown, ac Ysgolion Cynradd Westwood, y Parchedig Neil Kelly a Malcolm Hislop (Eglwys Saint Matthew), y Parchedig Martin Batchelor (Emmanuel Church Bistre), John Butler, Rosemary Griffiths, Graham Hopwood, David Williams, Kevin Williams.
Cyllidwyr: Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref Bwcle, Gwasanaeth Amgueddfa Sir y Fflint (Aura), Hamdden a Llyfrgelloedd Aura
