
Richard Roberts (chwith) 1831 - 1897. Yn ei ieuenctid cynorthwyodd yn sefydliad achos y Presbyteraidd yn Ewloe Green. Daeth yn aelod o Eglwys Fethodistaidd Galfanaidd Cymru , Ffordd yr Wyddgrug (sydd bellach wedi'i dymchwel). Yn 1869, bu’n gymorth yn sefydliad yr achos Saesneg yn Eglwys Bresbyteraidd Seion, Ffordd Brunswick (sydd hefyd bellach wedi'i dymchwel). Cymerodd ran fawr yn y Band of Hope ac ef oedd arweinydd Côr Dirwestol Bwcle. Yn 25 oed , ef oedd yr ieuengaf o'r sylfaenwyr.
Roedd Edward Davies (canol), teiliwr, yn un o aelodau cynharaf yr Eglwys Fethodistaidd Gyntefig. Roedd yn bregethwr lleol ac yn gefnogwr brwd o’r mudiad Dirwest. Fe’i disgrifiwyd fel “dyn o defnyddiol iawn , ac aml ei ddoniau”
Joseph Griffiths 1828 - 1911, mab-yng-nghyfraith Edward Davies. Roedd yn addoli yn Eglwys Gynulleidfaol Sant Ioan (yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig erbyn hyn) o'i ieuenctid ac, fel ei gyd-sylfaenwyr, gweithiodd yn ddiwyd yn yr Ysgol Sul.
Edward Davies a Joseph Griffiths, er gwaetha’r gwrthwynebiad yn eu heglwysi, oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r harmoniwm. Roedd yr olaf, hefyd yn gyfrifol yn nes ymlaen am osod organ.