Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Cerrig yr Orsedd

Cerrig yr Orsedd

Lluniwyd cylch Cerrig yr Orsedd yn 1972 i gyhoeddi bod yr Eisteddfod Genedlaethol i’w chynnal yn Rhuthun y flwyddyn ganlynol. Gellir mynd at y 12 carreg, gyda’r Maen Llog yn y canol, trwy diroedd y castell a adeiladwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg, ac maent yn ei hatgoffa y cafodd Rhuthun ei dewis yn lleoliad cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol, digwyddiad blynyddol pwysig yng Nghymru, yn 1973.
Mae’r garreg uchaf tua 1.5m o uchder, ac mae’r cylch tua 20m mewn diamedr. Pwrpas y Maen Llog oedd i’r Archdderwyd gyhoeddi ei wybodaeth am yr ŵyl ac yma, y tu mewn i Gylch yr Orsedd, yperfformiwyd y dawnsfeydd seremonïol, a lle mae holl aelodau newydd yr Orsedd yn cael eu derbyn. Mae’r 12 maen sy’n ffurfio’r cylch yn cynrychioli y 12 hen sir yng Nghymru.
Yn arferol daw’r cerrig o’r ardal leol, ac maent yn eiconau ar draws Cymru, yn dyst parhaol i ddiwylliant Cymreig ar ei orau.