Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Monsanto

Gwrando

Gwrandewch ar yr hysbysiad rhybuddion damweiniau

Gwrando

Mae Lawrence yn cofio'r arogl o'r gwaith.

Yn 1867 sefydlodd cemegydd o'r Almaen Robert Graesser waith cemegol ym Mhlas Kynaston, Cefn Mawr i dynnu olew paraffin a chwyr o'r siâl oedd ar gael o'r pyllau glo cyfagos. Ym 1919 aeth Cemegion Graesser i mewn i bartneriaeth gyda'r cwmni Americanaidd Monsanto a gymerodd y gwaith drosodd yn y pen draw yn 1928. Cynhyrchodd y fenter gemegau fel fanilin, aspirin a'i gynhwysyn crai asid salisylig, ac yn ddiweddarach gemegion prosesu rwber.

Daeth y cwmni yn gyflogwr mwyaf yr ardal; roedd cannoedd o'i weithwyr yn byw yn ogystal â gweithio yng Nghefn Mawr. Fel llawer o'r cyflogwyr mawr yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn yr 20fed ganrif, roedd Monsanto yn rhoi cymorth i fuddiannau hamdden ei weithlu trwy ddarparu adnoddau cymdeithasol a chyfleusterau hamdden. Roedd ganddo ei gôr ei hun a band arian ac roedd yn hybu a chefnogi timau chwaraeon lleol.