Agorwyd Amgueddfa Gymunedol Cefn Mawr ym mis Tachwedd 2014, ac mae'n bartneriaeth rhwng Cymdeithas Hanes Cefn Mawr a Chyngor Cymuned Cefn Mawr.
Lleolir yr Amgueddfa yn Ystafell Waterloo yng nghefn Neuadd George Edwards. Mae'r rhan fwyaf o'r arddangosfeydd yno wedi dod gan aelodau'r gymuned leol yng Nghefn Mawr a'r ardal ehangach. Mae'r Amgueddfa'n cynnwys gwahanol adrannau, ac mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar agwedd o fywyd cymunedol: Bywyd Pentref, Diwydiant, Trafnidiaeth, y Gamlas a'r Afon Dyfrdwy, Cofnodion Rhyfel, Eglwysi a Chapeli, Chwaraeon, Cerddoriaeth a Chelf. Yn ogystal â chynnig casgliad da o arteffactau, lluniau a dogfennau, mae gan yr Amgueddfa gyfleusterau clyweledol hefyd i chwarae fideos a cherddoriaeth sy'n gysylltiedig â bywyd y gymuned.






