Ffurfiwyd y diwydiannau lleol o gwmpas Cefn Mawr oherwydd y digonedd o ddeunyddiau crai megis clai, haearnfaen ac wrth gwrs glo. Roedd angen gwell system allforio i'r perchnogion. Ym 1791, cwrddodd tri o'r prif dirfeddianwyr yn Ellesmere i gysylltu afonydd Hafren, Dyfrdwy a Merswy, ac felly ffurfiwyd Cwmni Camlas Ellesmere. Roedd ochr Froncysyllte y draphont ddŵr yn barod yn 1801 ond roedd hi'n 1805 erbyn i draphont ddŵr Pontcysyllte gael ei gorffen. Yr asiant cyffredinol yn hyn oll oedd Thomas Telford. Roedd William Hazeldine, meistr haearn o'r Amwythig, am gost o £ 17,284, yn cyflenwi'r gwaith haearn ar gyfer y gamlas. Sefydlodd ffowndri ym Mhlas Kynaston yng Nghefn Mawr ac ymestynnodd yn ddiweddarach ei fuddiannau masnachol yn y gymdogaeth. Pan agorwyd y gamlas yn 1805 roedd un o'r cychod a gymerodd ran yn yr orymdaith ar draws y draphont ddŵr yn cynnwys llwyth o lo Hazeldine o Lofa Plas Kynaston.

