Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Traphont y Ddyfrdwy

Y mae Traphont Rheilffyrdd Cefn neu'r Ddyfrdwy, a agorwyd yn 1848, yn cysylltu Caer a Wrecsam i'r Amwythig a Chroesoswallt

"Mae Mercury Lerpwl yn nodi sylw ar gyfer y draphont wych nawr ar ôl ei chwblhau ar draws dyffryn y Ddyfrdwy, yn nyffryn Llangollen, y mae ei ddimensiynau yn rhagori ar unrhyw beth o'r math yn y byd.
O edrych oddi tani, mae'r strwythur helaeth yn cyflwyno ymddangosiad bonheddig, ac mae ei gyfrannau beiddgar â'i uchder yn methu peidio ag ennyn edmygedd gan y deiliad mwyaf di-hid. Er bod yr olygfa oddi isod yn dangos yr hyn y gall celf ei gyflawni, mae'r un o'r brig yn rhagori yng nghyfoethog tirlun gweledol y deyrnas ... Ar yr un ochr mae bryniau amlwg a rhodresgar, ar y llall yn gwastatir cyfoethog ymhobman ". (Dyfyniad o'r Railway Chronicle Medi 1848)

Traphont y Ddyfrdwy

"Mae traphont Dyfrdwy yn fwy na 150 troedfedd (46m) uwchlaw lefel yr afon. Fe'i delir gan bedwar ar bymtheg bwa 90 troedfedd (28m) o led, ac mae ei hyd yn fwy na 1,530 troedfedd (466m) neu bron i draean milltir."
"Mae'r traphont wedi cael ei chodi gan Feistri Makin, Mackenzie a Brassey, contractwyr, am gost o fwy na £100,000. Roedd cost y pren agenrheidiol i ffurfio sgaffaldiau ac ati, i'w godi yn £15,000 a chyflogwyd rhwng 300 a 400 o seiri yn unig yn ystod holl gyfnod yr adeiladu. Yr unig ddamwain a ddigwyddodd yn ystod ei chodi oedd bod rhywfaint o sgaffaldiau wedi disgyn ar weithiwr yn ddiweddar a'i ladd. " (Dyfyniad o'r Railway Chronicle Medi 1848) Lithograff gan G. Pickering del._ G. Hawkins, lith: Day a'i Fab, lith. i'r Frenhines.
Cyhoeddwyd gan T. Catherall, Eastgate Row, Caer. [d, c. 1848.]