
Bellach, yn faes parcio a golygfan i'r Draphont Ddŵr a Dyffryn Dyfrdwy, bu am flynyddoedd lawer yn lle byddai'r Ffeiriau a'r Syrcas deithio yn masnachu.
Yn ystod ymweliad gan Lloyd George ym 1926, bu'n rhaid iddo gael ei hebrwng i dŷ er diogelwch rhag lew a oedd wedi dianc o syrcas yma ar Ponc Cefn. Nid oedd mewn unrhyw berygl gan fod y llew yn hen iawn ac yn ddi-ddannedd!
Stryd y Craen 1950 yn edrych ymlaen gyda maes parcio 'Ponc Cefn' i'r chwith. Dychwelwyd siop 'Maypole', sydd bellach yn siop trin gwallt, i'w ffryntiad gwreiddiol yn ddiweddar.
Gan edrych yn ôl tuag at 'Y Craen', rydym wrth gyffordd Stryd y Ffynnon ac i'r chwith Stryd yr Allt. Mae'r olygfa hon yn dangos faint o siopau a busnesau a oedd ar hyd yr un stryd hon. Mae'r hen adeiladau ar yr ochr dde yn anffodus i gyd wedi mynd.




