Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Pysgota ar y Ddyfrdwy

Roedd Cei Connah yn enwog am ei bysgota eog.

Gwrando

Mae David Jones yn cofio helpu i dynnu'r eog yn ...

Gwrando

.. a'i daid yn cerdded am lyngyr.

Roedd yn fywyd caled gan fod yr afon yn hynod anodd ei defnyddio, gyda'i thywod symudol a'i thywydd ansicr ac fe gymerodd fywyd llawer o bysgotwyr. Roedd teuluoedd cyfan yn cymryd rhan, gyda phlant ifanc yn helpu i lanio'r rhwydi, a meibion yn gweithio ochr yn ochr â'u tadau o oedran cynnar. Pe bai pysgotwyr yn cael eu colli ar y môr, weithiau roedd eu gwragedd yn ymgymryd â'r gwaith hefyd. Fe wnaeth agoriad Gwaith Dur John Summers ehangu'r cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth arall. Erbyn y 1960au ychydig o bobl oedd yn pysgota'n amser-llawn, ond parhaodd llawer i bysgota'n rhan-amser, gan weithio sifftiau yn John Summers a physgota ar eu diwrnodau i ffwrdd.