Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Stryd Fawr

Stryd Fawr Cei Connah oedd calon y dref.

Roedd nifer o siopau, eglwysi a thafarndai ar hyd y stryd a welodd lawer o orymdeithiau a digwyddiadau dinesig. Stryd Fawr Cei Connah oedd prif ffordd yr arfordir yn wreiddiol o Queensferry i'r Fflint, ond heddiw mae Pont newydd Sir y Fflint yn cario'r ffordd A sy'n osgoi'r dref ond mae'r Stryd Fawr yn dal i fod yn brysur.