Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

The Story of Llwyni

Gwrando

Mae Llwyni yn stori llwyddiant go iawn sy'n dangos y gall pobl wneud gwahaniaeth i'w hamgylchedd lleol. Eglura Pip Perry sut.

Roedd datblygu yn anochel ond trwy weithio gyda'r awdurdod lleol, tirfeddianwyr a datblygwyr, roedd y trigolion yn gallu gwarchod y bywyd gwyllt naturiol a'r nodweddion tirwedd gorau yn yr ardal. Mae gwaith yn parhau i wella ac ymestyn yr hafanau hyn i greu rhwydwaith hyd yn oed yn well ar gyfer bywyd gwyllt a lle iach i bobl fyw a thyfu.