Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Parc y Tywysog

Parc y Tywysog

Gwaith Brics Prince's oedd y gwaith brics mwyaf llwyddiannus yng Nghei Connah.

Sefydlwyd sawl gwaith brics i wneud defnydd o wythïen gyfoethog o glai. Daeth James Prince i Gei Connah yn 1871, dim ond 21 oed, fel briciwr. Priododd â merch leol a sefydlu busnes gan wneud briciau, gan gyflogi 35 o ddynion yn fuan. Daeth yn ffigwr cyhoeddus mawr yn y dref fel Henadur o Golftyn Chapel, ac yn Gynghorydd Dosbarth a Sir.