
Ffurfiwyd Cymdeithas Hanes Lleol Glannau Dyfrdwy a'r Cylch yn 2014 o ddosbarth hanes WEA a ddaeth i ben ar ôl 20 mlynedd. Mae gan y Gymdeithas sgyrsiau misol, gwibdeithiau haf a gweithdai i aelodau sy'n dymuno ymchwilio ymhellach i fyd hanes lleol. Os ydych am gael her - ysgrifennu erthygl, meistroli sgiliau ymchwil, cynnal cyfweliad hanes llafar neu wrando ar sgyrsiau llawn gwybodaeth, dewch i ymuno â ni! Mae'r Gymdeithas yn cyfarfod am 7pm ar yr ail ddydd Iau bob mis yn y Ganolfan Gymunedol, Stryd Plymouth, Shotton. Mae aelodaeth yn £ 15 y flwyddyn neu £ 3 y noson. Am fanylion rhaglen e-bostiwch: deesidedlhs@gmail.com