Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Cerddwch i Goed Blast

Mae llwybr troed o Bronallt (gyferbyn â Meddygfa Coed-llai) yn mynd â chi heibio safle'r hen waith carthffosiaeth i mewn i Goed Blast. Os ydych chi'n sefyll ar y bont droed ac yn edrych i fyny'r afon fe welwch olion argae (mae'r nant bellach yn mynd o gwmpas yr ochr). Adeiladwyd yr argae hwn gan y gweithfeydd haearn i ddarparu cyflenwad dibynadwy o ddŵr ar gyfer eu gwaith. Wrth fynd i mewn i'r coed fe welwch wahanol dwmpathau a phantiau, safleoedd pyllau prawf ar gyfer glo. Os ydych chi'n lwcus efallai y gwelwch ddarnau bach o lo du sgleiniog.