Adeiladwyd y Druid Inn, ar Ffordd yr Wyddgrug / Wrecsam, o gerrig o gwmpas y 1800au fel coetsiws. Mae'n adnabyddus amfod ag ysbryd.
Landlord y Druid Inn oedd Jack Jones, a ddisgrifiwyd fel “bwtler a thafarnwr” a aned yn Upton on Severn yn Swydd Gaerwrangon. Daeth ei wraig Jane o Sandbach. Rhaid ei fod wedi symud o gwmpas llawer gan fod yna saith o blant wedi eu geni mewn pum lle gwahanol.
William (18) yn IIkeston, Swydd Derby, Mary (17) yn Hartford, Swydd Gaer, Harry (15) a Thomas (13) Calveshall, Sir Amwythig, Arthur (12) yng Nghaer ac yn olaf Jane (9) a Robert (8) yn yr Wyddgrug .


