Mae CC Pontblyddyn yn un o'r clybiau criced hynaf yng Nghymru, os nad yr un, gyda chofnodion yn dyddio'n ôl i ganol y 1800au. Mewn lleoliad prydferth ar Ystâd Hartsheath, gydag afonydd yn llifo ar 3 ochr y cae, mae llawer wedi mynegi ei fod yn un o diroedd mwyaf prydferth Prydain Fawr ac o bosibl yn unigryw am i Syr Garfield Sobers ar ymweliad ddweud mai hwn oedd yr unig gae yn y byd lle bu'n rhaid iddo groesi pont afon i gyrraedd y maes chwarae.




