
Ganed George Wynne Mai 1700, mab cyntaf John Wynne o Leeswood a Jane, merch Humphrey Jones o Helygain, Sir y Fflint. Roedd ei dad, bonheddwr tlawd, wedi esgeuluso ei blant ac fe fagwyd George gan Mr Evan Lloyd o Helygain. Ar 26 Ebrill 1720, priododd George â Margaret, merch Evan Lloyd. Ar ôl nifer o frwydrau cyfreithiol gyda'i dad yn bennaf, fe etifeddodd gan ei fam ddarn bach o dir ym Mynydd Helygain. Hwn oedd ei docyn loteri buddugol gan y canfuwyd bod y tir yn cynnwys gwythïen gyfoethog iawn o blwm. Daeth George yn ddyn ifanc cyfoethog iawn. Aeth ymlaen i ailadeiladu'r hen gartref teuluol yn llwyr. Er mwyn dangos y tŷ ar ei orau, cafodd osod y gerddi gan feistr garddwr, Stephen Switzer (1682–1745) mae'n debyg. Comisiynodd y gwaith o adeiladu'r sgrin addurnol tua 1726, gyda phileri cerrig addurnol yn y naill neu'r llall. Cyflwynodd Switzer y cysyniad o 'ferme ornee' (fferm wedi'i addurno) ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif ac roedd y sgrin yn gweithredu fel terfynfa ar gyfer y parcdir rheoledig ffurfiol ac fe'i cynlluniwyd i arwain llygad y gwyliwr allan i'r dirwedd anffurfiol agored. Nid oeddynt yn cael ei ddefnyddio fel gatiau mynedfa.

Roedd y llyn y tu hwnt i'r giatiau yn addurniadol ac yn ymarferol, gan ddarparu pwll melin yn gwasanaethu'r felin flawd gyfagos a gyrhaeddwyd dros bont ddau fwa dros yr Afon Terrig.
Daeth yn Aelod Seneddol ac yn ddiweddarach yn ei fywyd pan ddaeth y pwll plwm i ben, newidiodd ei ffortiwn da ac mae sôn bod ei ystad bersonol wedi ei atafaelu i dalu dyled. Cafodd ei garcharu yng ngharchar y King's Bench am gyfnod, ond yn y diwedd ymddengys iddo ddod dros ei anawsterau ariannol. Bu farw yn ei dŷ yn Greenwich, 5 Awst 1756.
Credid yn hir mai gwaith y Brodyr Davies o Wrecsam oedd y gwaith haearn ond mae gwaith adfer diweddar wedi awgrymu y gall y gwaith haearn fod wedi ei wneud gan Robert Bakewell, y gwyddys iddo weithio gyda Francis Smith, pensaer o Warwick ar nifer o brosiectau eraill, er mae'n bosibl i'r Brodyr Davies weithio fel is-gontractwyr. Yn wreiddiol roedd y porthdai a'r giatiau ochr a adwaenid yn ddiweddarach fel rhan o'r Giatiau Duon bob ochr i'r giatiau. Rhwng 1809 a 1840 adeiladwyd rhodfa olygfaol i'r gogledd a symudwyd y ddau borthdy i'w safle presennol lle newidiwyd eu cyfeiriadedd fel bod y cerfwedd addurnol yn wynebu ei gilydd. Bryd hynny, symudwyd y Gatiau Duon i'r safle yma hefyd.
Yn ddiweddarach symudwyd y Gatiau Duon i Tower, ystad gyfagos, ym 1986 gan y perchnogion ar y pryd, ar werthu'r plas.
(Cyf. Grid.324246,362205) tua milltir i'r gogledd-orllewin o'r Giatiau Gwynion, ar ffordd yr Wyddgrug i Treuddyn.
Giatiau Gwynion - Eglurder Uchel
Gweler Gatiau Duon Nawr A Heddiw (Llithro'r sgrîn o'r chwith i'r dde)