Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Pysgota ar y Ddyfrdwy

Gwrando

Roedd Dilwyn Glyn Jones yn feili dŵr i glwb pysgota preifat ar Afon Dyfrdwy am 10 mlynedd.

Mae pedwar pysgod helwriaeth yn Afon Dyfrdwy; eog, brithyll môr, brithyllod brown a penllwyd. Mae eogiaid a brithyll yn cael eu pysgota o fis Mawrth i fis Hydref tra bydd y penllwyd yn cael ei bysgota o fis Mehefin trwy'r gaeaf i fis Mawrth fel y tymor pysgota bras. Rhaid i bob pysgotwr gael trwydded gwialen yn ogystal â thocyn diwrnod neu dymor gan y clwb pysgota perthnasol. Fel beili dŵr, roedd Dilwyn yn arfer cerdded dwy ochr ei hyd o o'r afon yn ddyddiol i wirio nad oedd pysgotwyr yn cymryd unrhyw bysgod na ddylent. Mae llawer llai o botsio heddiw gan fod pris pysgod wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf.
Yn ôl Dilwyn mae pysgotwr da yn awyddus ac yn meddwl fel pysgodyn, gan wybod pa byllau i fynd iddynt yn yr afon.